Diolch yn fawr iawn i chi am eich diddordeb yn yr ymchwil hon i'r broses o werthu a defnyddio lesddaliadau yng Nghymru. Mae Llywodraeth Cymru wedi gofyn i ni nodi ac ymchwilio i brofiadau lesddeiliaid o brynu a byw mewn eiddo lesddaliad. Mae'n rhan o brosiect ymchwil mwy, sy'n cynnwys:
Mae'r ymchwil yn ceisio rhoi gwybodaeth amserol a dibynadwy am lesddeiliadaeth yng Nghymru a helpu Llywodraeth Cymru i ddatblygu polisi.
Mae aelodau'r tîm ymchwil yn dod o dair Ysgol y Gyfraith: Bangor, Caint ac Efrog. Mae'r Athro Helen Carr o Ysgol y Gyfraith yng Nghaint yn arwain yr ymchwil. Mae'r Athro Caroline Hunter o Ysgol y Gyfraith yn Efrog a Dr Gwilym Owen o Ysgol y Gyfraith ym Mangor yn cynorthwyo â'r ymchwil.
Mae'r rhan hon o'r prosiect yn arolwg ar-lein ar-lein i lesddeiliaid yng Nghymru. Mae'r arolwg hwn yn ceisio cael rhagor o wybodaeth am y canlynol:
I gymryd rhan yn yr arolwg hwn, mae angen i chi fod yn lesddeiliad preswyl hir yng Nghymru
Ceir rhai cwestiynau eithaf caeedig ynghylch eich amgylchiadau eich hun a'ch les. Er mwyn ateb y cwestiynau ynghylch eich les, gall bod â'ch les o'ch blaen fod yn ddefnyddiol.
Ni ddylai gymryd mwy na 20 munud i'w gwblhau, ond gall gymryd mwy o amser gan ddibynnu faint o wybodaeth rydych am ei rhoi i ateb y cwestiynau mwy penagored.
Defnyddio'ch atebion
Bydd y wybodaeth hon yn ategu adroddiad i Lywodraeth Cymru a chyhoeddiadau cysylltiedig eraill (megis cyhoeddiadau academaidd mewn llyfrau/cyfnodolion a chyhoeddiadau ar gyfer cynadleddau). Byddwch yn cwblhau'r arolwg yn ddienw – nid ydym yn cymryd eich enw na manylion adnabod eraill, a bydd unrhyw rif ffôn neu gyfeiriad e-bost a gaiff eu rhoi at ddibenion cyfweld â chi'n fanwl eto a/neu anfon copi o'ch les i ni (i) yn cael eu cadw ar wahân i'ch atebion a (ii) eu cadw'n ddiogel.
Data personol rydym yn eu cadw
Mae'r Rheoliad Cyffredinol ar Ddiogelu Data'n diffinio data personol fel ‘unrhyw wybodaeth am berson adnabyddadwy y gellir ei adnabod yn uniongyrchol neu'n anuniongyrchol drwy gyfeirio at ddynodydd.’ Mae'n bosibl y gallai rhywfaint o'ch gwybodaeth o'r arolwg ddod o dan y diffiniad hwn.
Dim ond cyfeiriadau e-bost a rhifau ffôn y bydd Prifysgol Caint yn eu defnyddio at ddibenion yr ymchwil hon.
Os dewiswch roi data personol ychwanegol fel rhan o'r ymchwil, byddwn yn ceisio peidio â'ch adnabod o'r atebion rydych yn eu rhoi neu'ch cysylltu â nhw. Os byddwch yn gofyn cwestiwn neu'n gwneud cwyn ac yn rhoi data personol wrth ofyn am ateb, bydd yr ymchwilydd yn anfon y cais at y swyddog perthnasol yn unig ac yn ei ddileu o ddata'r ymchwil ar ôl hynny.
Beth yw'r sail gyfreithiol dros ddefnyddio'ch data?
Y sail gyfreithiol dros brosesu gwybodaeth fel rhan o'r ymarfer casglu data hwn yw ein tasg gyhoeddus; hynny yw, arfer ein hawdurdod swyddogol i ymgymryd â rôl a swyddogaethau craidd Llywodraeth Cymru. Mae cymryd rhan yn hollol wirfoddol. Mae astudiaethau ymchwil fel hyn yn bwysig er mwyn i Lywodraeth Cymru gasglu gwybodaeth am ei gallu i gyflawni ei blaenoriaethau, yn ogystal â thystiolaeth y gellir gweithredu arni o'r gallu hwn.
Pa mor ddiogel yw'ch data personol?
Mae gwybodaeth bersonol sy'n cael ei rhoi i Brifysgol Caint bob amser yn cael ei storio ar weinydd diogel. Dim ond nifer gyfyngedig o ymchwilwyr sy'n gweithio ar y prosiect hwn a all weld y data. Dim ond at ddibenion ymchwil y bydd Prifysgol Caint yn defnyddio'r data hyn.
Mewn adroddiadau, bydd yr holl ddata a gasglwyd drwy'r ymchwil hon mewn fformat dienw. Ni fydd y data'n cynnwys eich manylion cyswllt, a bydd unrhyw wybodaeth adnabyddadwy sy'n cael ei rhoi wrth ateb cwestiynau penagored yn cael ei dileu. Bydd Prifysgol Caint yn defnyddio'r wybodaeth a gasglwyd i lunio adroddiad a fydd yn cael ei gyhoeddi ar wefan Llywodraeth Cymru. Ni fydd yr adroddiad hwn yn cynnwys unrhyw wybodaeth a allai gael ei defnyddio i adnabod cyfranogwyr unigol.
Am faint rydym yn cadw'ch data personol?
Bydd Prifysgol Caint yn cadw data personol yn ystod cyfnod y contract, a bydd unrhyw ddata personol nad ydynt wedi'u dileu eisoes yn cael eu dileu gan Brifysgol Caint dri mis ar ôl diwedd y contract. Mae hyn yn cynnwys eich manylion personol.
Bydd Prifysgol Caint yn rhoi fersiwn nad yw'n cynnwys gwybodaeth a allai eich adnabod i Lywodraeth Cymru.
Hawliau unigol
O dan y Rheoliad Cyffredinol ar Ddiogelu Data, mae gennych yr hawliau canlynol mewn perthynas â'r wybodaeth bersonol rydych yn ei rhoi fel rhan o'r [prosiect]. Mae gennych yr hawl i wneud y canlynol:
Manylion cyswllt Swyddfa'r Comisiynydd Gwybodaeth yw: Wycliffe House, Water Lane, Wilmslow, Cheshire SK9 5AF. Ffôn: 01625 545 745 neu 0303 123 1113. Gwefan: www.ico.gov.uk
Rhagor o wybodaeth
Os oes gennych ragor o gwestiynau ynghylch y ffordd y bydd y data sy'n cael eu rhoi fel rhan o'r astudiaeth hon yn cael eu defnyddio gan Lywodraeth Cymru, neu os hoffech arfer eich hawliau o dan y Rheoliad Cyffredinol ar Ddiogelu Data, cysylltwch â'r unigolyn canlynol:
Os oes gennych gwestiynau ynghylch yr arolwg (neu, yn fwy eang, ynghylch y prosiect ei hun), cysylltwch â'r Athro Helen Carr: h.p.carr@kent.ac.uk
I ddechrau, cliciwch ar y botwm perthnasol ar gyfer tai neu fflatiau. Drwy glicio ar y botwm isod, rydych yn dweud eich bod wedi darllen a'ch bod yn deall y wybodaeth ar y dudalen hon a'ch bod yn caniatáu i ni ddefnyddio'r data o'r holiadur yn y ffyrdd a ddisgrifiwyd.